Mae Stop it Now! Cymru wedi lansio eu hymgyrch Ymrwymo i Atal! ac wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i ymrwymo i atal cam-drin plant yn rhywiol, cyn etholiadau’r cynulliad yn 2011.
Rydym am weld cyhoeddi Strategaeth Cymru-gyfan ar gyfer Atal Cam-drin Plant yn Rhywiol, a fydd yn sicrhau bod y canlynol yn cael eu rhoi ar waith:
* Addysg i rieni a gofalwyr ynglŷn â sut helpu i atal cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys magu gwytnwch yn y plant, cyfathrebu’n agored ac onest, a gosod a pharchu ffiniau ymddygiad.
* Addysg i blant a phobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid ynglŷn â pharch mewn perthnasau, ffiniau ymddygiad rhywiol, caniatâd a chyffwrdd priodol.
* Hyfforddiant penodol ar atal cam-drin plant yn rhywiol i’r rheiny sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, gan gynnwys sut i adnabod arwyddion cam-drin plant yn rhywiol ac ymateb i’r sefyllfa.
* Gwasanaethau therapiwtig i blant a’u teuluoedd sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol.
* Gwasanaethau ymyrrol i oedolion a phobl ifanc â meddyliau neu ymddygiad sy’n destun pryder mewn cysylltiad â phlant.
Gallwch helpu trwy gefnogi ein hymgyrch a sicrhau bod y rheiny sydd mewn sefyllfa i wneud gwir wahaniaeth yn clywed eich llais.
Llofnodi’r ddeiseb! - bydd y ddolen yma’n mynd â chi i Survey Monkey i lofnodi.
Dim ond eiliad neu ddau sydd angen i lofnodi ein deiseb ar-lein! Anfonwch y ddolen ymlaen at eich ffrindiau, eich teulu a’ch cydweithwyr i gynyddu’r gefnogaeth i’r ymgyrch. Mae croeso i chi lawrlwytho’r ddeiseb bapur yma os byddai’n well gennych gasglu’r llofnodion eich hunan, ac yna dychwelwch hi i’r cyfeiriadu isod.
Helpwch ni i ddwyn sylw’r cyhoedd at y broblem yma trwy anfon ‘Llythyr at y Golygydd’ i’ch papur newydd lleol.
Rydym wedi darparu templed ar eich cyfer, ond y llythyrau mwyaf effeithiol yw’r rhai sydd wedi’u haddasu fel eu bod yn cyfeirio at newyddion diweddar a’ch barn a’ch safbwyntiau personol chi. Awgrymu hyd a strwythur y llythyr a wna’r sampl.
Dogfennau cryno a phenodol yw Llythyrau at y Golygydd fel rheol. Mae’n ddefnyddiol hefyd gallu cysylltu eich llythyr ag eitem newyddion ddiweddar neu erthygl nodwedd a gafodd ei chyhoeddi yn y papur. Mae hyn yn ei gwneud yn fwy tymhorol ac yn berthnasol i’r darllenwyr. Os ysgrifennwch at eich papur newydd, anfonwch gopi atom ninnau hefyd, i rwasinski@stopitnow.org.uk neu i’r cyfeiriad isod.
Helpwch ni i ledaenu’r neges trwy osod poster yn eich cartref, yn eich gweithle neu’ch siopau lleol.
Beth am gynnwys dolen ar eich tudalen Facebook neu ar Twitter i roi gwybod i’ch ffrindiau! Ceisiwch argyhoeddi’ch cyflogwr - gallwn ddarparu erthyglau ar gyfer eich gweithle, ynghyd â chylchlythyrau ac adnoddau eraill fel ysgrifbinnau, posteri, post-its a deisebau papur.
Hefyd mae gennym sampl o lofnod e-bost y gallwch ei hychwanegu at eich e-byst fel bod pawb rydych yn cysylltu â nhw yn gwybod am yr ymgyrch.
Os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch Reolwr yr Ymgyrch Genedlaethol, Rebecca Wasinski ar 07989 378220, neu anfonwch e-bost at rwasinski@stopitnow.org.uk neu ysgrifennwch at:
Stop it Now! Wales
c/o NSPCC Cymru
Diane Engelhardt House
Treglown Court
Dowlais Road
Cardiff
CF24 5LQ